Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Ty Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 24 Tachwedd 2011 |
|
|||
Amser: |
09: - 11:30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2011(6) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog) Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu (Swyddog) Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog) Non Gwilym (Swyddog) Brian Davidge, Pennaeth TGCh a Darlledu (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Tim Knighton, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Nodwyd bod y Cynulliad wedi cytuno ar gyllideb y Comisiwn ar 16 Tachwedd 2011. Diolchwyd i Angela Burns AC am arwain y gwaith ar y gyllideb ac am ei gyflwyno’n effeithiol i’r Cynulliad.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar y cofnodion yn ffurfiol.
2. Gwasanaethau Dwyieithog
Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2011, cytunodd y Comisiwn i gynnal ymgynghoriad ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) ac ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft ac i ddarparu Cofnod dwyieithog o drafodion y Cyfarfod Llawn yn amodol ar y ffaith bod y trefniadau’n gynaliadwy ac yn rhesymol o ran cost.
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus cyn y broses ddeddfu ar y Bil a’r Cynllun drafft, bu swyddogion yn dadansoddi’r ymatebion. Roedd y cyfranwyr wedi awgrymu nifer o ddiwygiadau i’r Bil a’r Cynllun. Nodwyd yr ymdrech a wnaed i annog pobl i gyfrannu at y broses ymgynghori ac roedd y Comisiwn yn croesawu’r ymatebion a ddaeth i law.
Penderfynodd y Comisiwn na fyddai’r ddyletswydd i ddarparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cyfarfod Llawn yn cael ei chynnwys ar wyneb y Bil. Cytunwyd ar weddill y diwygiadau arfaethedig i’r Bil drafft. Bu’r Comisiwn yn ystyried y diwygiadau posibl i’r Cynllun a gwnaeth nifer o awgrymiadau gan ofyn i swyddogion eu hadlewyrchu yn y drafft arfaethedig.
Ystyriwyd y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori ynghylch y Cofnod, a’r ymchwiliadau a wnaed i’r datblygiadau technolegol diweddaraf i gynorthwyo’r gwasanaethau cyfieithu.
Penderfynodd y Comisiwn y bydd Cofnod ysgrifenedig o drafodion y Cyfarfod Llawn yn cael ei gyhoeddi, o fewn pum niwrnod gwaith, o fis Ionawr 2012, gyda chyfieithiad o gyfraniadau o’r naill iaith i’r llall. Bwriedir cyflawni hyn drwy ddefnyddio cyfuniad o systemau cyfieithu peirianyddol a phrawfddarllenwyr, ynghyd â system reoli a golygu fewnol er mwyn sicrhau bod y Cofnod yn cyrraedd safonau presennol y Cynulliad o ran arddull, cysondeb ac ansawdd. Byddai’r union gost yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys pa mor gyflym y bydd datblygiadau technolegol yn cynyddu cywirdeb y cyfieithiad peirianyddol ond, mewn unrhyw achos, ni fydd y gost yn fwy na £95,000 y flwyddyn.
Bydd y Bil drafft diwygiedig, y Memorandwm Esboniadol ategol, a’r Cynllun arfaethedig yn cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2012.
Cafodd Rhodri Glyn Thomas AC ei awdurdodi gan y Comisiwn i fod yn gyfrifol am y Bil. Diolchodd y Comisiynwyr i Rhodri Glyn Thomas AC a’r swyddogion am y gwaith a wnaed hyd yn hyn. Diolchodd Rhodri Glyn Thomas AC i Fwrdd yr Iaith am y cymorth a roddodd.
Cam i’w gymryd: Rhodri Glyn Thomas AC i gyflwyno unrhyw welliannau terfynol i’r Bil a’r Cynllun cyn eu cyflwyno ar ôl ymgynghori ag Angela Burns AC, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaethau ariannol perthnasol wedi’u cynnwys yn y Memorandwm Esboniadol ategol.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Rheoli Carbon
Ym mis Tachwedd 2009, cytunodd y Comisiwn blaenorol ar strategaeth Rheoli Carbon. Roedd hyn yn cynnwys uchelgais i leihau allyriadau blynyddol 8 y cant o ran ynni a 3 y cant o ran teithio ar fusnes, ac i fod yn garbon niwtral erbyn 2015.
Roedd y Comisiwn yn croesawu’r gostyngiad o 11.1 y cant a gafwyd mewn allyriadau ynni yn ystod blwyddyn 2 ar draws ystad y Cynulliad, sy’n gyfwerth ag arbediad o 182 tunnell o garbon a thua £50,000 mewn costau. Hyd yma, gwelwyd gostyngiad o 19 y cant mewn allyriadau gyda tharged o 40 y cant erbyn 2015.
Nododd y Comisiynwyr y cynnydd da a wnaed hyd yma ac ailddatganwyd eu hymrwymiad i’r strategaeth Rheoli Carbon er mwyn cynnal statws y Cynulliad fel corff seneddol blaenllaw ym maes cynaliadwyedd. Cytunwyd mewn egwyddor i fwrw ymlaen â phrosiect peilot i osod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel sydd wedi’u dylunio’n well, ac sy’n lled-awtomatig i alluogi awyru naturiol effeithlon.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i lunio amcangyfrif manwl o gost y prosiect peilot i’r Bwrdd Rheoli ei gymeradwyo.
4. Darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol
Ar hyn o bryd, caiff gwasanaethau TGCh y Cynulliad eu darparu gan Atos fel rhan o’r contract Merlin, a fydd yn dod i ben yn 2014. Nid oes gan y Cynulliad gytundeb ag Atos. Yn hytrach, darperir y gwasanaethau yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan y Comisiwn a Gweinidogion Cymru pan wahanwyd y ddau gorff yn 2007. Yn dilyn prosiect UNO, a greodd blatfform TGCh annibynnol, nid yw systemau’r Cynulliad bellach wedi’u hintegreiddio â rhai Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi mwy o ryddid i’r Cynulliad o ran dewis darpariaethau TGCh yn y dyfodol.
Mae’r Comisiwn yn cefnogi’r weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol, a’r ystod o fodelau y gellir eu defnyddio i ddarparu’r gwasanaethau hyn. Cytunwyd y byddai swyddogion yn parhau i ymchwilio i’r opsiynau a gytunwyd.
5. Cyllideb Atodol 2011-12
Yn ei gyllideb ar gyfer 2011-12, mae’r Comisiwn wedi cynnwys cronfeydd ar wahân i dalu am gostau sy’n gysylltiedig ag etholiadau, gan ei gwneud yn glir y bydd unrhyw arian sy’n weddill yn cael ei dalu’n ôl i floc Cymru drwy gyllideb atodol.
Roedd cyllideb Aelodau’r Cynulliad yn cynnwys £3.460 miliwn yn seiliedig ar amcangyfrif y bydd trosiant 30 Aelod gyda chost cyfartalog o £115,000 ar gyfer pob Aelod, ac roedd cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad yn cynnwys £0.655 miliwn. Cafodd y dyraniadau cyllidebol hyn eu clustnodi ar gyfer costau’n ymwneud â’r etholiad. Nodwyd bod y gwir drosiant o 23 Aelod wedi arwain at danwariant o £1.8 miliwn yn erbyn cyllideb Aelodau’r Cynulliad a thanwariant o £0.2 miliwn yn erbyn cyllideb Gwasanaethau’r Cynulliad.
Cytunodd y Comisiwn y byddai £0.2 miliwn yn cael ei roi yn ôl i floc Cymru drwy gynnig cyllideb atodol.
6. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiliaid portffolios
Cyflwynodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau o fewn eu portffolios.
Dywedodd Sandy Mewies AC, y Comisiynydd sy’n gyfrifol am gydraddoldeb, y bydd yn gweithio â’r Tîm Cydraddoldeb ar ddatblygu cynllun cydraddoldeb y Comisiwn a’r Gronfa Fynediad i Aelodau.
Cyflwynodd yr holl Gomisiynwyr sylwadau am yr adborth yr oeddent wedi’i gael gan yr Aelodau a’u staff ynghylch y problemau TGCh a gafwyd a chytunwyd ei bod yn annerbyniol bod y problemau wedi parhau cyhyd. Nododd Peter Black fod cyfarfod wedi’i gynnal â swyddogion ar lefel uwch yn BT a’u bod wedi rhoi sicrwydd y bydd y problemau band eang, a oedd wedi effeithio ar sawl rhan o’r Deyrnas Unedig, yn cael eu datrys o fewn tua 10 niwrnod. Dylai unrhyw broblemau eraill gael eu datrys pan fydd pawb wedi trosglwyddo i UNO Fersiwn 2, a bydd unrhyw broblemau gyda’r system gwaith achos yn cael eu datrys ar ôl hynny. Os bydd problemau’n parhau ar ôl hynny, gofynnwyd i swyddogion fynd â’r gŵyn ymhellach gan weithio â Llywodraeth Cymru.
7. Rhaglen Dreigl Comisiwn y Cynulliad
Nodwyd y rhaglen dreigl.
8. Unrhyw Fusnes Arall
Ni nodwyd unrhyw fusnes arall.